Exodus 29

Sut i gysegru'r offeiriaid

(Lefiticus 8:1-36)

1“Dyma sut rwyt ti i'w cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi: Cymer darw ifanc a dau hwrdd sydd â ddim byd o'i le arnyn nhw. 2Yna gyda'r blawd gwenith gorau, gwna fara heb furum ynddo, cacennau wedi eu cymysgu gydag olew, a bisgedi tenau wedi eu socian mewn olew – y cwbl heb furum ynddyn nhw. 3Rho'r rhain i gyd mewn basged, a mynd â nhw gyda'r tarw ifanc a'r ddau hwrdd. 4Yna dos ag Aaron a'i feibion at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Golcha nhw gyda dŵr. 5Yna cymer y gwisgoedd ac arwisgo Aaron gyda'r crys, y fantell sy'n mynd gyda'r effod, yr effod ei hun, y darn dros y frest, a clymu'r effod gyda'r strap cywrain sydd wedi ei blethu. 6Yna rho'r twrban ar ei ben, a rhwymo'r symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw ar y twrban. 7Yna ei eneinio trwy dywallt yr olew ar ei ben. 8Wedyn arwisga'r meibion yn eu crysau nhw, 9rhwyma sash am eu canol (Aaron a'i feibion), a gosod eu penwisg arnyn nhw i ddangos mai nhw sydd i wasanaethu fel offeiriaid bob amser. Dyma sut mae Aaron a'i feibion i gael eu hordeinio.

10“Rwyt i gyflwyno'r tarw o flaen Pabell Presenoldeb Duw. Yno mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail. 11Yna rwyt i ladd y tarw o flaen yr Arglwydd wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. 12Wedyn cymer beth o waed y tarw a'i roi ar gyrn yr allor gyda dy fys. Mae gweddill y gwaed i gael ei dywallt wrth droed yr allor. 13Yna cymer y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a'u llosgi nhw ar yr allor. 14Ond mae'r cig, y croen a'r coluddion i gael eu llosgi tu allan i'r gwersyll. Yr offrwm puro ydy e.

15“Yna rwyt i gymryd un hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar ben yr anifail. 16Wedyn lladd yr hwrdd, cymryd ei waed a'i sblasio o gwmpas yr allor. 17Wedyn rhaid torri'r hwrdd yn ddarnau, golchi'r coluddion a'r coesau cyn eu gosod nhw ar y darnau a'r pen 18ar yr allor, a llosgi'r cwbl. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd.

19“Yna cymryd yr ail hwrdd, ac mae Aaron a'i feibion i osod eu dwylo ar yr anifail yma eto. 20Lladd yr hwrdd, yna cymer beth o'r gwaed a'i roi ar waelod clust dde Aaron, a'r un fath ar ei feibion. A hefyd ar fawd eu llaw dde ac ar fawd y droed dde. Yna sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor. 21Wedyn cymryd peth o'r gwaed sydd ar yr allor, a'r olew eneinio, a'i daenellu ar Aaron a'i gwisgoedd, ac ar feibion Aaron a'u gwisgoedd nhw. Wedyn bydd Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd wedi eu cysegru. 22Yna cymer y brasder i gyd, y brasder ar gynffon yr hwrdd, y brasder o gwmpas ei berfeddion, rhan isaf yr iau, y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan uchaf y goes dde – hwrdd y cysegru ydy e. 23Ac o'r fasged o fara heb furum ynddo sydd o flaen yr Arglwydd, cymer un dorth, un gacen wedi ei chymysgu gydag olew, ac un fisged denau wedi ei socian mewn olew. 24Yna rho'r cwbl yn nwylo Aaron a'i feibion i'w gyflwyno fel offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. 25Wedyn rwyt i'w cymryd yn ôl ganddyn nhw, a llosgi'r cwbl ar yr allor. Offrwm i'w losgi'n llwyr ydy e – mae'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd.

26“Wedyn rwyt i gymryd brest hwrdd cysegru Aaron, a'i gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr Arglwydd. Chi sydd i gadw'r darn yna. 27Mae'r darnau gafodd eu chwifio a'u codi fel siâr Aaron o hwrdd y cysegru i gael eu gosod o'r neilltu – sef y frest a darn uchaf y goes ôl dde. 28Aaron a'i feibion fydd piau'r rhannau yma o offrymau pobl Israel. Dyna fydd y drefn bob amser. Nhw sydd i gael y darnau yma o'r offrymau mae pobl Israel yn eu cyflwyno i ofyn am fendith yr Arglwydd.

29“Mae gwisgoedd cysegredig Aaron i gael eu defnyddio pan fydd disgynyddion iddo yn cael eu heneinio a'u hordeinio ar ei ôl. 30Bydd yr offeiriad fydd yn ei olynu yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod pan fydd yn mynd i Babell Presenoldeb Duw i wasanaethu yn y Lle Sanctaidd am y tro cyntaf.

31“Rhaid i ti gymryd hwrdd y cysegru, a coginio'r cig mewn lle cysegredig. 32Yna mae Aaron a'i feibion i fwyta cig yr hwrdd, gyda'r bara oedd yn y fasged, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. 33Dim ond nhw sydd i gael bwyta'r cig a'r bara gafodd ei ddefnyddio i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw, pan oedden nhw'n cael eu hordeinio a'u cysegru i'r gwaith. Does neb arall yn cael eu bwyta, am eu bod wedi eu cysegru. 34Os oes cig neu fara dros ben y bore wedyn, rhaid ei losgi. Dydy e ddim i gael ei fwyta am ei fod wedi ei gysegru.

35“Dyna sydd i gael ei wneud i Aaron a'i feibion, yn union fel dw i wedi gorchymyn i ti. Mae'r seremoni ordeinio yn para am saith diwrnod. 36Bob dydd rhaid i ti aberthu tarw ifanc yn offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw. Rwyt i buro'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i gael ei defnyddio, a'i chysegru drwy ei heneinio ag olew. 37Am saith diwrnod rwyt i baratoi'r allor a'i chysegru i'w gwneud yn iawn i'w defnyddio. Wedyn bydd yr allor yn sanctaidd iawn, a bydd unrhyw beth sy'n ei chyffwrdd yn gysegredig.

Yr offrymau dyddiol

(Numeri 28:1-8)

38“Dyma beth sydd i'w gyflwyno ar yr allor yn rheolaidd bob dydd: Dau oen blwydd oed – 39un i'w gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi. 40Mae'r oen cyntaf i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd, a gyda litr o win yn offrwm o ddiod. 41Yna cyflwyno'r ail pan mae'n dechrau nosi, gyda'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod a'r bore – offrwm sy'n cael ei losgi, ac sy'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd. 42Bydd yr offrwm yma'n cael ei losgi'n rheolaidd, ar hyd y cenedlaethau, wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Dyna ble fydda i'n dy gyfarfod di, ac yn siarad â ti. 43Dyna ble fydda i'n cyfarfod pobl Israel. Bydd fy ysblander i yn ei wneud yn lle cysegredig.

44“Felly bydd y Tabernacl a'r allor wedi eu cysegru, a bydd Aaron a'i feibion wedi eu cysegru i fod yn offeiriaid i mi. 45Dw i'n mynd i aros gyda phobl Israel. Fi fydd eu Duw nhw. 46Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r Arglwydd eu Duw nhw, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft, er mwyn i mi fyw gyda nhw. Fi ydy'r Arglwydd eu Duw nhw.

Copyright information for CYM